Crwydrwch y Sir trwy lygaid ffotograffwyr, gwehyddion, arlunwyr, crochenyddion a cherflunwyr. Prydferthwch naturiol yr ardal hon sydd wedi tanio eu creadigrwydd.
Gŵyl Gerddoriaeth a Chelfyddydau Llanandras. 21 - 26 Awst 2008
Rhaglen wirioneddol eang o achlysuron cerddorol clasurol sy’n cael ei lleoli o fewn golygfeydd syfrdanol ar y ffin rhwng Cymru a Lloegr.
Mae Llanandras yn dref hudolus ar y Gororau gyda rhannau o’r adeiladau o bren ac maent yn dyddio’n ôl i’r bedwaredd ganrif ar ddeg. Ewch am dro o amgylch Llety’r Barnwr, atyniad sydd wedi ennill tlysau ac sy’n edrych yn ôl ar fywyd Fictoraidd a gweithgarwch y Llys. Ceir un neu ddau hanes rhyfeddol yn Eglwys Sant Andreas, sydd gerllaw.
Gŵyl Gregynog – Neuadd Gregynog, Y Drenewydd
24/06/11-03/07/11
Digwyddiadau celfyddydau Rhyngwladol mewn lleoliad godidog. Gŵyl Gregynog.
Gwybodaeth bellach www.gwylgregynogfestival.org. Tocynnau ar gael oddi ar y wefan neu ffoniwch 01686207100
Gŵyl Machynlleth 21-28 Awst 2011
Datganiadau Clasurol, Jas dros benwythnos. Cyfunwch gyda chipolwg ar gelf ac arddangosfeydd yn Y Tabernacl. Mae Machynlleth yn dref hanesyddol lle sefydlwyd Senedd Owain Glyndŵr yn y 15fed ganrif, ond gellir dod o hyd i gelfyddydau cyfoes yn orielau ac arddangosfeydd y dref.
Amgueddfa Powysland yn Y Trallwng www.powys.gov.uk/museums
Amgueddfa Brycheiniog yn Aberhonddu www.powys.gov.uk/museums
Llety’r Barnwr yn Llanandras www.judgeslodging.org.uk
Amgueddfa Sir Faesyfed yn Llandrindod www.powys.gov.uk/museums
Amgueddfa Neuadd Farchnad Llanidloes www.powys.gov.uk/museums
Amgueddfa Decstilau’r Drenewydd www.powys.gov.uk/museums
Amgueddfa Gatrodol Catrawd Frenhinol Cymru yn Aberhonddu www.rrw.org.uk
Yr Amgueddfa Seiclo Genedlaethol yn Llandrindod www.cyclemuseum.org.uk
Canolfan Owain Glyndŵr ym Machynlleth www.canolfanowainglyndwrcentrre.org.uk