
![]() |
Mae’r URL=http://www.hay-on-wye.co.uk/>Gelli Gandryll, neu “Hay-On-Wye” yn Saesneg, yn enwog fel tref y llyfrau. Dyma gartref Gŵyl Lenyddiaeth Y Gelli sy’n denu tua 80,000 o awduron, argraffwyr a llên-garwyr o bob rhan o’r byd i’r dref farchnad fechan hon yn ne ddwyrain Powys ddiwedd mis Mai bob blwyddyn.
Weddill y flwyddyn, y dref farchnad ddeniadol hon yw mecca llyfrau Prydain, gyda deg ar hugain o siopau llyfrau mawr, gyda’r mwyafrif yn gwerthu llyfrau ail law. Hon oedd Tref Lyfrau gyntaf y byd. Dechreuodd y cwbl yn 1961 pan agorodd Richard Booth ei siop lyfrau gyntaf yn Y Gelli, a dyfodd yn fuan yn siop lyfrau ail law fwyaf Ewrop.
Un o nodweddion amlycaf y dref yw adfeilion y castell. Yn dyddio o’r drydedd ganrif ar ddeg, fel llawer o gestyll y ffin yng Nghymru, cafodd ei ddifrodi’n sylweddol gan wrthryfel Glyndŵr yn 1400. Serch hynny, parhaodd Castell Y Gelli i gael ei ddefnyddio fel cartref tan ddechrau’r 20fed ganrif.
Fel Llanfair-ym-Muallt, mae gan tref Y Gelli ddau gastell. Mae’n debyg i amddiffynfa gyntaf Y Gelli gael ei hadeiladu gan William Fitz Osbern ar ei gyrch i dde ddwyrain Cymru yn ystod haf 1070. Dros y cenedlaethau a ddilynnodd, death y cestyll dan reolaeth nifer o deuluoedd Normanaidd amlwg, yn cynnwys teulu Neufmarche, Braose a Bohun.
Mae gweddillion gaer honno bellach islaw adfeilion y castell presennol a’r plasty. Heb amheuaeth, dyma’r castell a gofnodwyd fel ‘castello de haia’ a ildiodd i Miles Gloucester yn 1121 ynghyd â merch Bernard de Neufmarche. Yn 1165, cafodd yr olaf o ddisgynyddion gwryw Miles Gloucester ei ladd mewn brwydr gerllaw.
Trosglwyddwyd Castell Y Gelli Gandryll i ofal William de Braose oedd yn enwog am ei greulondeb. Dan arweinyddiaeth teulu Braose, ymddengys fod y castell wedi datblygu, ac mae’n debygol fod y porthdy sydd wrth ymyl y gorthwr yn dyddio o’r cyfnod hwnnw. Mae nofel hanesyddol boblogaidd, The Lady of Hay gan Barbara Erskine, yn rhoi disgrifiad byw o fywyd yn y castell ac o fewn teulu de Braose yn ystod y cyfnod hwn. Cafodd y de Braose olaf o Aberhonddu ei grogi gan Lywelyn ap Iorwerth yn 1230, sef Gwilym Brewys o ddrama Siwan gan Saunders Lewis, a chafodd arglwyddiaeth Y Gelli Gandryll ei drosglwyddo i deulu Bohun.
Parhaodd Llywelyn a’i luoedd i reibio tiroedd y Bohuniaid, ac yn ystod un ymosodiad yn 1231, llosgwyd tref Y Gelli Gandryll yn wael, er i’r castell oroesi. Parhaodd y castell i wasanaethu, gan newid dwylo dair gwaith - ar un adeg fe’i hildiwyd i ofal yr enwog Simon de Montfort. Daeth concwest Edward I yng Nghymru â chyfnod mwy heddychlon i’r dref hon ar y ffin, ond ychydig dros ganrif yn ddiweddarach, ymosodwyd ar y dref a’r castell unwaith yn rhagor gan ragor o luoedd Cymru, pan ysgubodd Owain Glyndŵr a’i fyddin trwy’r ardal yn 1401.
Yn ystod yr oesoedd canol diweddarach, death y castell dan ofal ieirll Stafford, a ddaeth yn ddugiaid anlwcus Buckingham yn ystod Rhyfel y Rhosynnau. Yn y 1660au, dechreuodd James Boyle o Henffordd adeiladu plasty newydd ar ochr ogleddol y castell, gan ddymchwel y rhan fwyaf o’r llenfur i wella’r olygfa. Mae’r plasty’n parhau i gael ei ddefnyddio heddiw – a heb fod yn syndod i’r Gelli – fel siop lyfrau ail law.
Mae gweddillion y castell arall wrth ymyl Eglwys y Santes Fair yn Y Gelli. Mae’n domen fach ond sydd wedi’i chadw’n dda. Mae’n debyg iddo gael ei adeiladu gan William Revel, marchog yng ngosgordd Bernard de Neufmarche. Efallai iddo fod yn sedd ar gyfer cwmwd Melinog yn ddiweddarach, ond nid oes rhagor o’i hanes wedi’i gofnodi.
Rhoddwyd Y Gelli Gandryll ar y map ar Ebrill y 1af 1977 wedi i’r llyfrgarwr Richard George William Pitt Booth ddatgan Y Gelli Gandryll yn deyrnas annibynnol, gan ei enwebu ef ei hun yn frenin. Ers hynny, mae’r Gelli wedi datblygu diwydiant twristiaeth iach yn seiliedig ar ddiddordeb llenyddol. Mae’r dref wedi’i gefeillio â Timbuktoo.