Sunday 1 August 2010 - Tuesday 31 August 2010

![]() |
Mae tref hanesyddol Crughywel wedi’i lleoli ar lan afon Wysg ar gyrion deheuol y Mynyddoedd Duon yn rhan ddwyreiniol Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog. Caiff ei henw gan fryngaer Oes Haearn Crug Hywel sydd yn edrych i lawr ar y dref. Dros y blynyddoedd hefyd, mae’r enw wedi cael ei Seisnigeiddio, gyda’r enw Crickhowell hefyd yn cael ei arddel.
Tyfodd y dref o amgylch y castell tomen a beili cyntaf a adeiladwyd yn 1121, gan yr Arglwydd Normanaidd Robert Turberville, a oedd bryd hynny’n denant i’r enwog Bernard de Neufmarche. Ailadeiladwyd y castell mewn carreg yn ddiweddarach pan briododd aeres y teulu, Sybil Turberville â Syr Grimbold Peuncefote. Yn 1242 dechreuwyd ar y gwaith o adeiladu muriau a thyrrau cerrig sylweddol, beili mawr a chartref o fewn muriau’r castell fyddai’n addas ar gyfer un o gynghreiriaid y goron yng Nghymru. Yn ddiweddarach, fe’i trosglwyddwyd i linach dylanwadol Mortimer, oedd yn rai o Arglwyddi’r Mers, ac yn y bedwaredd ganrif ar ddeg, daeth yn ystâd llai, oedd â phortffolio eang o deitlau, cestyll mwy a thiroedd ynghlwm ag ef.
Yn 1400, trwy orchymyn brenhinol y Brenin newydd, Harri IV, ail-atgyfnerthwyd y castell, er mwyn gwrthsefyll gwrthryfel Owain Glyndŵr. Gwnaed y gwaith gan Syr John Pauncefote, gôr ŵyr deiliad blaenorol i’r castell, Syr Grimbold. Serch hynny, ychydig a wnaeth yr amddiffynfeydd newydd i wrthsefyll ymosodiadau Glyndŵr, ac fe’i dinistriwyd mwy na heb gan y lluoedd yn gynnar yn y bymthegfed ganrif. Dim ond adfeilion y tŵr carreg dwbl ar lawnt y castell sy’n weddill.
Nodweddion eraill gwerth sôn amdanynt yng Nghrughywel yw’r bont garreg o’r ail ganrif ar bymtheg dros afon Wysg - y bont garreg hiraf yng Nghymru - gyda’i bwâu rhyfedd (tair ar ddeg ar un ochr a deuddeg yr ochr arall) a’r sedd a adeiladwyd i mewn i’r waliau. Mae’r eglwys hardd o’r bedwaredd ganrif ar ddeg, a gysegrwyd i Sant Edmwnd hefyd yn werth ymweld â hi. Bydd gwasanaeth yn cael ei gynnal yno bob dydd Sul.
Mae amaethyddiaeth yn parhau’n ddiwydiant pwysig yn yr ardal, ynghyd â thwristiaeth. Mae llawer iawn o’r tir sydd o amgylch y dref, dros 20,000 erw, yn rhan o Ystâd Glanusk Park, sydd ar hyn o bryd yn eiddo i deulu Legge-Burke.
Daw hanes yn fyw yng Nghastell a Llys Tretwr. Mae'r Llys yn dyddio o'r bedwaredd ganrif ar ddeg a gallwch hefyd grwydro'r gerddi.