Saturday 18 May 2013 - Monday 17 June 2013

![]() |
Mae Aberhonddu, neu Brecon yn Saesneg, yn dref farchnad hanesyddol yng nghanol Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog.
Mae’r Brythoniaid, y Rhufeiniaid a’r Normaniaid oll wedi gadael eu marc ar Aberhonddu.
Mae gan y fryngaer anferth o’r Oes Haearn sydd ar Ben-y-Crug, i’r gogledd o’r dref gylchedd o 503 medr a rhagfuriau sy’n 5.5 medr o uchder.
I’r gorllewin o’r dref, mae’r gaer Rufeinig fwyaf o’i math yng Nghymru – sef Y Gaer, Aberhonddu.
O fewn gerddi’r Castle Hotel yn y dref, mae gweddillion castell o’r unfed ganrif ar ddeg a adeiladwyd gan y barwn Normanaidd Bernard de Neufmarche.
I’r gogledd o’r dref wedyn mae Cadeirlan Aberhonddu a sefydlwyd fel mynachlog Fenedictaidd gan gyffeswr Neufmarche, mynach o Abaty Battle, Sussex. Mae’r gadeirlan o ddiddordeb hanesyddol mawr, gan fod arglwyddi Normanaidd, tywysogion Cymreig ac arweinyddion addoliad wedi’u claddu o fewn ei thiroedd. Yma mae carreg gresed fwyaf Prydain, sydd â 30 cwpan. (Mae carreg gresed yn ddull goleuo hynafol, sef carreg fawr sydd â nifer o dyllau wedi’u cerfio iddi er mwyn rhoi canhwyllau).
Yn y bryniau o amgylch Aberhonddu, mae rhywfaint o dirwedd cerdded a mynydda gorau Prydain, yn cynnwys Pen-y-fan, pwynt uchaf de Prydain, sy’n cyrraedd 886 medr.
O fewn y dref, mae basn Camlas Aberhonddu, sy’n rhan o Gamlas Sir Fynwy ac Aberhonddu a dyma fan cychwyn Llwybr Taf, llwybr cerdded a seiclo sy’n mynd yr holl ffordd i Gaerdydd.
Ym mis Awst, caiff gwyl Jazz flynyddol Aberhonddu ei chynnal yn y dref mewn lleoliadau ym mhob rhan o’r dref, yn cynnwys [UEL=www.brycheiniog.co.uk>Theatr Brycheiniog.
Beth am ddod i Farchnad Ffermwyr Aberhonddu yn neuadd y farchnad 10am -2pm ar ail ddydd Sadwrn y mis heblaw am fis Awst.