Sunday 1 August 2010 - Tuesday 31 August 2010

![]() |
Mae Rhaeadr yn dref farchnad hanesyddol, brysur, a enwyd ar ôl y rhaeadr leol ar afon Gwy. Hon yw’r dref gyntaf ar lannau hardd Afon Gwy, ac mae’n ganolfan bwysig i’r gymuned amaethyddol amgylchynol, gyda’i marchnad da byw lwyddiannus.
Mae'r dref yn dyddio’n ôl i’r bumed ganrif, er bod tystiolaeth cynhanesyddol yn awgrymu fod aneddiadau cynharach o’r Oes Efydd a chyfnod y Rhufeiniaid yn yr ardal. Yn 1177, adeiladodd yr Arglwydd Rhys o’r Deheubarth gastell yn y dref a safai ar gyrion ei diroedd er mwyn atal cyrchoedd y Normaniaid, ac yn 1194 fe’i hail-adeiladodd, gan ei wneud yn gryfach i atal y cyrchoedd. Câi’r castell ei adnabod fel Castell Gwrtheyrnion, ac fel nifer o gestyll Cymru, bu’n ôl a blaen dan reolaeth nifer o dywysogion ac arglwyddi Cymru a’r Normaniaid hyd nes iddo gael ei ddinistrio gan dân gan filwyr o ogledd Cymru yn 1231.
Yng nghanol y dref, ceir croesffordd bwysig rhwng y ffordd o’r de i’r
gogledd a’r ffordd o’r dwyrain i orllewin Cymru. Ar y groesffordd mae’r cloc lle’r oedd y goets fawr yn aros yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg ar ei ffordd rhwng Aberystwyth a Llundain. Yn ystod y ddeunawfed ganrif a’r bedwaredd a’r bymtheg, roedd porthmyn defaid a gwartheg yn aml yn aros yn Rhaeadr Gwy dros nos neu i brynu nwyddau ar eu ffordd i farchnadoedd yn Banbury, Henffordd a Llundain.
Gan fod y dref ar groesffordd bwysig yng nghanol Cymru, gosodwyd
dim llai na chwe thollborth yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg ar y
ffyrdd i mewn ac allan o Raeadr Gwy. Roedd hyn yn ei gwneud yn ddrud dod ag anifeiliaid i’r farchnad a daeth yn faich gwirioneddol ar bobl dlawd. Pan gafwyd gostyngiad ym mhrisiau anifeiliaid a chynhaeaf gwael, roedd y baich yn ormod i’w ysgwyddo. Felly, rhwng 1839 a 1844, cafwyd terfysgoedd mawr yn yr ardal, sef Terfysgoedd Beca – pan oedd pobl yr ardal, wedi’u cynddeiriogi gan y cynnydd mewn costau, yn dilyn criw o denant ffermwyr a gweision ffermydd a oedd wedi’u gwisgo fel merched. Merched Beca oedd yr enw ar y rhain. Credir bod y syniad wedi dod o’r Beibl. Yn Genesis, dywedwyd wrth Rebeca "bydded i'th ddisgynyddion etifeddu porth eu gelynion”.
Heddiw, mae’r dref farchnad ddiddorol hon yn ganolfan ardderchog ar gyfer crwydro’r ardaloedd cyfagos. Mae llwybrau hyfryd ar lan yr afon ac yma mae canolfan Welsh Royal Crystal. Mae Fferm Gigrin ar gyrion y dref wedi’i dynodi’n fan bwydo barcutiaid a chaiff ymwelwyr fodd i fyw wrth wylio’r adar hardd, a fu bron â diflannu’n llwyr o Gymru’n gymharol ddiweddar, yn gwneud eu campau yn yr awyr.