![]() |
Monday 20 May 2013 - Wednesday 19 June 2013

Llandrindod yw tref fwyaf canolog Cymru. Datblygodd y dref fel tref ffynhonnau yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg, ac yna gwelodd ffyniant pellach ar ddiwedd yr 20fed ganrif fel canolfan llywodraeth leol.
Bu ‘rhinweddau iachau’ y dŵr ffynnon lleol yn denu ymwelwyr i’r ardal yn ystod canol y 18fed ganrif. O ganlyniad i hynny, profodd y dref ffyniant economaidd, ac adeiladwyd nifer o westai. Yn ystod y ‘tymor’ rhwng Mai a chanol Medi, roedd ymwelwyr i Landrindod yn yfed y dŵr yn y tai pwmpio ym Mharc y Creigiau a Gwesty’r Pump House, gyda cherddorfeydd yn rhoi adloniant. Yn ei anterth, roedd yr ardal yn cynnwys amrywiaeth eang o weithgareddau yn amrywio o golff i rasio ceffylau!
Mae’r mwyafrif o bensaernïaeth y dref yn dyddio o’r cyfnodau Fictoraidd ac Edwardaidd ffyniannus, pan adeiladwyd gwestai a siopau crand, ynghyd â theatr Neuadd Albert. Mae yma hefyd adeiladau yn arddull Art Deco yn cynnwys dwy hen garej drawiadol.
Yn ystod y ddau Ryfel Byd ar ddechrau’r 20fed ganrif, cafwyd ymwelwyr tra gwahanol yn Llandrindod, wrth i filwyr ar gyrsiau hyfforddi aros yn y gwestai a’r tai llety, a rhoddwyd llety hefyd i ffoaduriaid a milwyr wedi’u hanafu yn y dref.
Yn ystod y 1970au, daeth canolbarth Cymru’n boblogaidd gyda hipis a rhai oedd yn chwilio am fywyd mwy amgen a gwledig. Arhosodd llawer ohonynt yn yr ardal yn barhaol, a sefydlwyd un o’r siopau a’r bwytai cyfanfwyd cyntaf yng Nghymru yma yn Llandrindod, ac mae’r busnes yn parhau i fynd o nerth i nerth.
Mae’r Parc Creigiau hanesyddol yn y dref a’r llyn a grëwyd yn y dref yn parhau yn fannau poblogaidd i ymweld â hwy. Yng nghanol y llyn, a ddefnyddir i bysgota a hwylio cychod model, mae cerflun trawiadol o sarff ddŵr a charp yn neidio. Mae’r cen ar gyfer y cerfluniau wedi’u gwneud o filoedd o blatiau copr sydd wedi’u llofnodi â llythrennau cyntaf pobl leol ac ymwelwyr adeg y gwaith adeiladu.
Mae Llandrindod bellach yn dref farchnad brysur, sydd â marchnad awyr agored unwaith yr wythnos ar ddydd Gwener, ac yn ffynnu fel man ar gyfer cynadleddau a chyfarfodydd busnes – gan ei bod yng nghanol Cymru. Yn wir, yn dilyn datganoli yng Nghymru, mae Llandrindod wedi cael enw fel y man lle bydd penderfyniadau pwysig yn cael eu gwneud gan y pleidiau gwleidyddol, gan fod lleoliad y dref mor ganolog yng Nghymru, ac wrth ymyl yr A470.
Mae gan y dref lawnt fowlio awyr agored o safon ryngwladol sy’n dyddio o 1912 a fydd yn cynnal digwyddiadau cenedlaethol a rhyngwladol yn rheolaidd, ynghyd â chanolfan fowlio dan do fwy newydd. Llandrindod sy’n cynnal Gŵyl Gerdded Calon Cymru bob blwyddyn, yr Ŵyl Fictoraidd neu’r Wythnos Fictoraidd ddiwedd mis Awst, ac mae’n fan cychwyn/diwedd nifer o ralïau ceir, beiciau modur a seiclo cenedlaethol.