View Accommodation in Mid Wales and The Brecon Beacons
Food and Shopping in Mid Wales and The Brecon Beacons
Attractions in Mid Wales and The Brecon Beacons
Attractions in Mid Wales and The Brecon Beacons
Activities in Mid Wales and The Brecon Beacons
What's on in Mid Wales and The Brecon Beacons
Gardens in Mid Wales and The Brecon Beacons
Attractions in Mid Wales and The Brecon Beacons
Map Search of Mid Wales and The Brecon Beacons
Enjoy the Wildlife around Mid Wales and The Brecon Beacons
Enjoy the many walking trails within Mid Wales and The Brecon Beacons
Enjoy the many Cycle Routes within Mid Wales and The Brecon Beacons
Welcome to the Explore Mid Wales and The Brecon Beacons Website

Mae ein cig oen melys a blasys, gyda pherlysiau persawrus y bryniau yn enwog yng Nghymru a thu hwnt. Dyma ardal sydd â chysylltiadau cryf ag amaethyddiaeth, ac rydym yn falch iawn i allu cynnig cynhwysion lleol a ffres. Dyma reswm da i godi chwant am bryd o fwyd yn y dafarn leol neu i grwydro un o nifer o’n ffeiriau bwyd.

Mae ein marchnadoedd ffermwyr wastad wedi bod yn farchnadoedd y ffermwyr go iawn, a dyma fydd hi yn y dyfodol.  Daw hi’n amlwg pam ein bod yn gadael nhw fel y maen nhw, wrth i chi grwydro’r stondinau gydag arogleuon cig moch cartref a chaws yn taro’ch synhwyrau a’r llygaid yn gwledda ar lysiau cartref.

Gyda chyfle i sgwrsio ac i flasu, mae marchnadoedd y ffermwyr yn llefydd i’w trysori i’r hen a’r ifanc.

Mae gwledd i siopwyr yng Nghanolbarth Cymru a Bannau Brycheiniog. Fe welwch rai siopau mawr, cyfarwydd, a hefyd nifer o siopau a ‘siopau bwtîg’ annibynnol sy’n gwerthu popeth ‘dach chi ei angen, yn ogystal â digon i’ch temtio hefyd!

(C) 2007 - 2013 Explore Mid Wales. All Rights Reserved
Website Design: Trimast Systems Limited