
![]() |
Mae'r Drenewydd, neu Newtown yn Saesneg, ar lannau Afon Hafren. Fe'i sefydlwyd yn y drydedd ganrif ar ddeg a chafodd gyfnod llewyrchus iawn yn y ddeunawfed ganrif a'r bedwaredd ar bymtheg pan oedd bri ar y diwydiant gwlân a brethyn. Yn wir, fe'i gelwid yn ’Leeds Cymru'. Cafodd y dref hwb arall yn y cyfnod hwnnw gyda dyfodiad Camlas Maldwyn.
Yn y Drenewydd y ganed Robert Owen ym 1771, Caiff Robert Owen (1771 - 1858) ei adnabod fel Sosialydd cyntaf Prydain, ac fe’i ganwyd uwchben siop cyfrwywr yn Stryd Lydan, Y Drenewydd. Pan oedd yn unarddeg oed dechreuodd weithio yn niwydiant gwehyddu llewyrchys y dref. O dipyn i beth, datblygodd yn ddyn cefnog, yn rheoli a dod yn berchennog ar rai o ffatrïoedd gwehyddu mwyaf Prydain.
Cydnabyddir Robert Owen am hau hadau sosialaeth ym mhell cyn Karl Marx. Mae’r beddargraff ar ei garreg fedd ym mynwent hen eglwys y Santes Fair yn y Drenewydd yn crynhoi ei athroniaeth:
‘It is the one great and universal interest of the human race to be cordially united and to aid each other to the full extent of their capacities.’
Mae ei gartref yn amgueddfa erbyn hyn. Gwelwyd dirywiad yn y diwydiant brethyn yn y Drenewydd ar ôl i wrthdystiad cyntaf y Siartwyr yng Nghymru gael ei gynnal yn y dref ym 1838. Wedi hynny, amaethyddiaeth oedd prif ffon fara'r ardal.
Rhoddwyd statws 'tref newydd' i'r Drenewydd ym 1967 ac o ganlyniad i hynny, bu cynnydd mawr yn y boblogaeth. Newidiwyd cymeriad y lle o fod yn dref farchnad wledig i fod yn gartref i nifer o gwmnïau newydd a'r bobl a weithiai iddynt.
Erbyn heddiw, mae'r Drenewydd yn dref ranbarthol brysur. Mae Oriel Davies yn oriel gelfyddydau o bwys ac mae Canolfan Gregynog, sef plasty hardd a godwyd gan yr Arglwydd Davies o Landinam bellach yn ganolfan gynadledda dan reolaeth Prifysgol Cymru, wedi’i leoli gerllaw. Cynhelir gŵyl gelfyddydau uchel ei pharch yno bob haf.