
![]() |
Mae Llanidloes yn dref hanesyddol yng nghanol Powys. Mae ei safle canolog yng Nghymru yn golygu mai hon yw’r dref gyntaf ar lannau Afon Hafren. Cafodd y dref siarter i gynnal marchnad yn 1289, ond mae ei hanes yn ymestyn yn ôl o leiaf 400 mlynedd cyn hynny.
Mae neuadd farchnad ffrâm bren hynafol wedi goroesi ar y groesffordd rhwng pedair stryd ganoloesol y dref. Fe’i hadeiladwyd oddeutu 1600, a hwn yw’r unig adeilad o’i fath sydd wedi goroesi yng Nghymru. Yn ogystal â bod yn lle ar gyfer marchnadoedd, yn y neuadd hefyd y cynhaliwyd y brawdlysoedd oddeutu 1605, ac yn 1748 pregethodd John Wesley o garreg bulpud ar y llawr gwaelod agored. Mae rhagor o olion hanes canoloesol y dref i’w gweld mewn nifer o adeiladau ffrâm bren amlwg, ynghyd â’r eglwys o’r 15fed ganrif gyda’i tho trawst gordd. Mae eglwys Sant Idloes yn y dref yn cynnwys rhai o’r bwâu Seisnig cynnar o Abaty Cwm-hir, a gafodd ei diddymu yn 1547.
Roedd y bryniau a’r mynyddoedd o amgylch Llanidloes unwaith yn ganolfannau cloddio pwysig am blwm ac arian, ac mae olion y diwydiant yn dal i’w gweld ar y tirwedd, yn enwedig ar y ffordd fynyddig sy’n cysylltu Llanidloes a Machynlleth. Yn ystod y ddeunawfed a’r bedwaredd ganrif ar bymtheg, datblygodd y dref hefyd ddiwydiant gwlanen llewyrchus, ond cafwyd dirywiad yn hanner cyntaf y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Arweiniodd cwymp y diwydiant tecstilau lleol at ymgyrch am hawliau democrataidd, a daeth y dref yn enwog fel crochan o anfodlonrwydd diwydiannol yn ystod gwrthryfel y Siartwyr yn 1839.
Ymhlith nodweddion mwyaf anghyffredin y dref, mae dafad enwog sydd â dau ben, sydd i’w gweld yn yr amgueddfa leol, a hefyd nifer y tafarndai i’r boblogaeth.
Yn 2007, roedd gan Lanidloes boblogaeth o 2314. Bryd hynny, roedd gan y dref 17 lle yfed trwyddedig. Mae hyn yn ymddangos yn gyfradd uchel iawn i dref fach llawn traddodiadau’r Methodistiaid a’r Bedyddwyr. Mae’r ymwelwyr heddiw’n mwynhau’r golygfeydd mynyddig hardd sy’n amgylchynu’r dref, ac mae’r ardal yn hafan ar gyfer gwylwyr adar sydd am weld y barcud coch yng Nghoedwig Hafren, ac ar gyfer eraill sy’n ymddiddori mewn bywyd gwyllt. Bydd cerddwyr yn mwynhau’r llwybrau llawn golygfeydd yn y mynyddoedd, yn cynnwys Llwybr Glyndŵr, sydd wedi’i gysylltu â llwybr Clawdd Offa ac yn creu dolen 160 milltir o amgylch canolbarth Cymru.
Mae’r dref wedi’i chysylltu’n glos â Laura Ashley, y cynllunydd defnydd a dillad. Yn Llanidloes y dechreuodd ei busnes, mewn siop fechan ar y stryd fawr. Yn ddigon addas felly, mae pencadlys Cymdeithas Cwilt Prydain yng Nghanolfan Gelfyddydau Minerva, ac mae’r dref yn cynnal, ac yn enwog am ei gŵyl gwisg ffansi flynyddol bob mis Gorffennaf.