View Accommodation in Mid Wales and The Brecon Beacons
Food and Shopping in Mid Wales and The Brecon Beacons
Attractions in Mid Wales and The Brecon Beacons
Attractions in Mid Wales and The Brecon Beacons
Activities in Mid Wales and The Brecon Beacons
What's on in Mid Wales and The Brecon Beacons
Gardens in Mid Wales and The Brecon Beacons
Attractions in Mid Wales and The Brecon Beacons
Map Search of Mid Wales and The Brecon Beacons
Enjoy the Wildlife around Mid Wales and The Brecon Beacons
Enjoy the many walking trails within Mid Wales and The Brecon Beacons
Enjoy the many Cycle Routes within Mid Wales and The Brecon Beacons
Welcome to the Explore Mid Wales and The Brecon Beacons Website

Trail Map...



Downloads...

Route Map: ElanVallyPenygarreg.pdf

Route Description: ElanVallyPenygarregword.doc

LLWYBR CYLCHOL 10 MILLTIR (CLOCWEDD)

Mapiau’r Arolwg Ordnans:

Landranger  147

Explorer  200

 

Llwybr Graddfa: 3

 

DS. Mae’r llwybr yma’n croesi tir agored uchel lle mae niwl yn dueddol o ddisgyn yn sydyn, felly byddai’n well peidio â’i ddefnyddio mewn tywydd garw. Mae merlod yn pori’r tir uchel.

 

Parcio a’r Man Cychwyn

 

Mae lle i barcio ar gael mewn cilfan ar yr ochr chwith i ffordd Rhaeadr Gwy i Aberystwyth, rhyw 3 milltir o Raeadr Gwy. Chwiliwch am yr arwydd am lwybr ceffyl ar y dde uwchlaw’r rhaeadr ar gopa’r bryn, ac fe gewch y gilfan tua hanner milltir oddi yno. (Cyfeirnod Grid 923705)

 

 

Disgrifiad o’r Llwybr

 

O’r gilfan, ewch ryw ychydig o lathenni ar hyd y ffordd o gyfeiriad Rhaeadr a chymryd y trac ar y dde. Ewch ymlaen ar hyd y trac yma am ryw filltir, nes y gwelwch faen hir ar y gorwel ar yr ochr chwith i’r trac.  Mae croes wedi’i hysgythru ar y garreg yma er cof am y Pennaeth Einion Clud. Dywedir i Roger Mortimer gudd-ymosod arno a’i lofruddio gerllaw ym 1176 wedi i Einion ei daflu oddi ar ei geffyl wrth ymladd mewn twrnameint. Cyfeirir yn lleol at y gofeb fel Bedd y Tywysog.

 

Ar waelod y pant cyn i chi gyrraedd y maen mae trac ar y dde sy’n troi’n sydyn am yn ôl. Dilynwch hwn i lawr y rhiw at y ffordd. Trowch i’r chwith a marchogaeth yn ôl ar hyd y ffordd tuag at Raeadr Gwy nes i chi gyrraedd y llwybr ceffyl y soniwyd amdani uchod. Dilynwch hwn dros y nant, ac yna ewch ar y trac sy’n dirwyn i fyny’r bryn. Pan ddaw’r trac yn llai serth, chwiliwch am drac llai i’r dde, a dilyn hwn nes i chi gyrraedd dau bostyn ochr yn ochr ger y trac. Tua 150 llath i’r dde mae’r piler triongli ar gopa Crugyn Ci. Ar ddiwrnod da, gallwch weld Bannau Brycheiniog i’r de, Fforest Clud i’r dwyrain, y ddwy garnedd ar Drygarn Fawr i’r de-orllewin ac Aran Fawddwy i’r gogledd o’r fan hon.

 

Tua 100 llath ar ôl mynd heibio i’r pyst concrid, ewch i’r chwith, ar y llwybr ceffyl â chyfeirbwynt. Dilynwch y llwybr yma am ryw hanner milltir. Fe welwch gronfa ddŵr Penygarreg islaw o’ch blaen. Pan fydd y trac yn rhannu’n ddau, gwyrwch i’r dde a throi i’r dde eto yn union cyn i chi gyrraedd pâr arall o byst concrid. (Cyfeirnod grid 926677). Dilynwch y trac igam-ogam i lawr i’r cwm. Mae’r trac yn arw ac yn garegog i ddechrau. Ar y gwaelod, trowch i’r chwith, ac yna yn sydyn i’r dde ar ôl rhyw 150 llath. Dilynwch y trac yma i Argae Penygarreg ac yna gydag ymyl y gronfa ddŵr i Argae Craig Goch ar y copa. (Cyfeirnod grid 895686).

 

O Argae Craig Goch, dilynwch y llwybr ceffyl sy’n rhedeg yn syth ymlaen ger y gronfa ddŵr ac yn gwyro i fyny’r bryn. Mae’r trac ychydig yn aneglur mewn mannau, ac yn eithaf corsiog ar gopa’r bryn. Wedi mynd heibio i’r rhan gorsiog, mae’r trac yn mynd tua’r dde, ac mae modd gweld ffordd y mynydd yn y pellter ar y chwith. Dilynwch y trac heibio i safle gwersyll Rhufeinig ac yna heibio i gorlan a thros nant nes ymuno â’r ffordd. Trowch i’r dde ac yna mynd ar hyd y trac i’r chwith, gan fynd yn ôl i’r man parcio. Neu gallwch droi i’r chwith a dilyn y ffordd yn ôl i’ch cerbyd.

To top

(C) 2007 - 2013 Explore Mid Wales. All Rights Reserved
Website Design: Trimast Systems Limited