Route Map: penyfford&dyfnant.pdf
Route Description: penyfford&dyfnantword.doc
Taith Gylchol 14 Milltir (Clocwedd)
Llwybr Graddfa: 2
Mapiau'r Arolwg Ordnans:Landranger 125 Explorer 239
DS. Er mwyn gallu gorffen y daith, mae’n hanfodol eich bod yn marchogaeth ceffyl sy’n fodlon cerdded trwy ddŵr gan fod afon lydan i’w chroesi, er nad yw hon fel arfer yn ddofn.
Parcio a Man Cychwyn:
Mae maes parcio mawr gyda digonedd o le i drelars ym Mhenyffordd, Dyfnant, trwy garedigrwydd cwmni dŵr Hafren Trent. Mae hwn ar ochr chwith y B4395 wrth deithio o Langadfan i Bont Llogel, tua milltir a hanner o gyffordd y B4395 a’r A458. (Cyfeirnod grid yr Arolwg Ordnans 018 133). Mae nifer o lwybrau ceffylau â chyfeirbwyntiau i’w gweld yn y coetir o amgylch y maes parcio. Llwybrau’r Enfys yw’r rhain ac mae taflenni ar gael yn y maes parcio sy’n rhoi manylion y llwybrau yma
Disgrifiad o’r Llwybr:
O’r maes parcio, ewch ar y trac llydan sy’n arwain trwy’r goedwig ar ochr dde’r wtra wrth y brif fynedfa. (Neu, gallwch droi i’r dde i’r ffordd a dilyn y llwybr ceffyl ag arwyddion sydd ar y dde, ar ôl rhyw 50 llath, sy’n ymuno â’r trac yma yn nes ymlaen.) Dilynwch y trac sy’n dod yn rhan o Ffordd Glyndŵr, ac yn parhau trwy’r goedwig. Ewch yn syth ymlaen wrth y ddwy gyffordd, gan ddilyn arwyddion Ffordd Glyndŵr. (Cyffyrdd pum-ffordd yw’r ddwy, ac mae’n bwysig eich bod yn gadael dau drac ar y chwith ac un ar y dde yn y ddau achos). Ychydig wedi’r ail gyffordd pum-ffordd, ewch i lawr y trac glaswelltog i’r chwith. Ar y gwaelod, croeswch y trac ac ewch trwy’r gât o’ch blaen. (Cyfeirnod grid 003 153). Dilynwch y llwybr o’ch blaen ac yna i’r dde, i lawr lôn arw a charegog nes cyrraedd nant. Croeswch y nant a throi i’r dde ar y ffordd ychydig lathenni o’ch blaen, a dilynwch hon i Gownwy.
Yng Nghownwy, trowch i’r dde, a dilynwch y ffordd sy’n rhedeg gydag ochr yr afon, a chroesi’r bont ym Mhont Newydd-Cownwy, gan barhau nes eich bod yn dod at ffordd sy’n gwyro ar i fyny ar y dde o’ch blaen. Ewch ar y ffordd, gan ddringo’r rhiw ac yna mynd i lawr at Ben-y-braich. Ychydig cyn cyrraedd y bwthyn, ewch ar y trac ag arwydd ar y chwith. Ewch i lawr y trac, sydd ychydig yn fwdlyd, a phan fyddwch yn cyrraedd y cae ar y gwaelod, dringwch i’r gât ar y dde. Dilynwch y ffordd â chyfeirbwynt o’ch blaen, sy’n gwyro i’r dde a maes o law yn dod i lawr trwy blanhigfa nes cyrraedd ffordd. (Cyfeirnod grid 044 158).
Croeswch y ffordd ac ewch i lawr y rhiw am ryw filltir. Chwiliwch am fwthyn cerrig o’r enw Nant y Dwyrhos (Cyfeirnod grid 048 145) ac ewch ar y trac ag arwydd sydd ar y dde gyferbyn â’r bwthyn. Dilynwch y trac yn syth ymlaen, ac yna i’r chwith, gan groesi nant ger pont droed. Dilynwch y trac i lawr at y rhyd. Croeswch yr afon ac ewch trwy’r gât i’r trac ar y lan gyferbyn. Mae’r rhyd yn un llydan, ond nid yw’n arbennig o ddofn yn ystod yr haf.
Dilynwch y trac heibio i hen fwthyn. Gan sicrhau bod llinell y ffens ar y dde, ewch ymlaen ar hyd y trac a thrwy nifer o gatiau nes y gwelwch fod y trac yn un â tharmac arno. (Cyfeirnod grid 036 137 ). Ewch yn syth ymlaen yn y fan yma, ac yna wrth y gyffordd, ewch drwy’r gât yn syth o’ch blaen a pharhau ar hyd y trac. Wrth y gât nesaf, ewch drwy’r nant fas ac at y gwrych ar y chwith. Wrth y terfyn nesaf, ewch drwy’r gât ganol a’r trac mwyaf amlwg. Dilynwch hwn at y ffordd. Trowch i’r dde a dilyn hwn yn ôl i’r maes parcio ym Mhen-y-ffordd.