View Accommodation in Mid Wales and The Brecon Beacons
Food and Shopping in Mid Wales and The Brecon Beacons
Attractions in Mid Wales and The Brecon Beacons
Attractions in Mid Wales and The Brecon Beacons
Activities in Mid Wales and The Brecon Beacons
What's on in Mid Wales and The Brecon Beacons
Gardens in Mid Wales and The Brecon Beacons
Attractions in Mid Wales and The Brecon Beacons
Map Search of Mid Wales and The Brecon Beacons
Enjoy the Wildlife around Mid Wales and The Brecon Beacons
Enjoy the many walking trails within Mid Wales and The Brecon Beacons
Enjoy the many Cycle Routes within Mid Wales and The Brecon Beacons
Welcome to the Explore Mid Wales and The Brecon Beacons Website





Beth sydd ar y fwydlen heddiw?  Beth am gig oen mynyddig blasus, cig eidion brau Gwartheg Duon Cymreig, pysgod a gêm lleol, bara cartref, ffrwythau a llysiau yn eu tymor? Neu siopa am y bwyd iawn – bwyd araf, bwyd go iawn, bwyd iachus – ar stondinau cynnyrch lleol ac ym marchnadoedd y ffermwyr? Mae’n ddiogel dweud y byddwch yn fwy na thebyg wedi teithio ymhellach na’r bwyd yr ydym yn ei weini.

Gwobrau Bwyd

 

Gwobrau Gwir Flas yw gwir ‘Oscars’ bwyd Cymru  www.walesthetruetaste.com

Dyma ychydig o enillwyr ddoe a heddiw i wella eich archwaeth.

Mae Graig Farm Organics, www.graigfarm.co.uk ar gyrion Coedwig Maesyfed, yn arloeswr gwirioneddol. Dechreuodd y cartref naturiol hwn i fwyd organig dros 20 mlynedd yn ôl yn cynhyrchu ‘cywion ieir oedd yn blasu fel cywion’. Mae ei gynnyrch sydd wedi ennill gwobrau bellach yn cynnwys cig oen, cig eidion a phorc.

 

Manna o’r nefoedd? Mae hwn i’w gael gan gwmni Caroline’s Real Bread ym mhentref bychan Merthyr Cynog ger Aberhonddu. Mae eu hamrywiaeth blasus o fara traddodiadol yn cynnwys yr amrywiad Cymreig iawn hwn ar thema – Cennin gyda Chaws Caerffili.

 

“A Matter of Loaf and Death” - Mae Melin Ddŵr Bacheldre, www.bacheldremill.co.uk, y felin flawd sydd wedi ennill gwobrau ac sy’n cael ei rhedeg gan deulu ger Trefaldwyn hyd yn oed wedi ymddangos yn ffilm ddiweddaraf Wallace and Gromit.

Dewch i gyfarfod y cynhyrchwyr, olrhain y bwyd a blasu’r gwahaniaeth www.tasteofpowys.org.uk

 

Gwyliau Bwyd a Marchnadoedd y Ffermwyr

Marchnad y Ffermwyr Aberhonddu 2il ddydd Sadwrn y mis (ac eithrio mis Awst)

Marchnad y Ffermwyr Tref-y-clawdd 2il a 4ydd dydd Sadwrn y mis

Marchnad y Ffermwyr Llandrindod dydd Iau olaf y mis.

Marchnad y Ffermwyr Llangynidr dydd Sul olaf y mis

Marchnad y Ffermwyr Maesyfed 3ydd dydd Sadwrn y mis

Marchnad y Ffermwyr Llanandras dydd Sadwrn 1af y mis

Marchnad y Ffermwyr y Trallwng dydd Gwener 1af y mis

 

(C) 2007 - 2013 Explore Mid Wales. All Rights Reserved
Website Design: Trimast Systems Limited