View Accommodation in Mid Wales and The Brecon Beacons
Food and Shopping in Mid Wales and The Brecon Beacons
Attractions in Mid Wales and The Brecon Beacons
Attractions in Mid Wales and The Brecon Beacons
Activities in Mid Wales and The Brecon Beacons
What's on in Mid Wales and The Brecon Beacons
Gardens in Mid Wales and The Brecon Beacons
Attractions in Mid Wales and The Brecon Beacons
Map Search of Mid Wales and The Brecon Beacons
Enjoy the Wildlife around Mid Wales and The Brecon Beacons
Enjoy the many walking trails within Mid Wales and The Brecon Beacons
Enjoy the many Cycle Routes within Mid Wales and The Brecon Beacons
Welcome to the Explore Mid Wales and The Brecon Beacons Website

Ar awyren:

Mae’r meysydd awyr rhyngwladol agosaf yng Nghaerdydd, Bryste, Lerpwl (John Lennon), Manceinion a Birmingham.

Ar y trên:

Ar Linell Calon Cymru – Yr Amwythig i Abertawe (yn galw yn Nhref-y-clawdd, Llandrindod a Llanwrtyd a nifer o leoedd eraill).

Ar Linell y Cambrian – Yr Amwythig i Aberystwyth (yn galw yn Y Trallwng, Y Drenewydd, Caersws a Machynlleth).

National Rail Enquiries: www.nationalrail.co.uk
Ffôn: 08457 484950

Ar y bws:

Bydd Bysiau National Express yn galw mewn trefi ledled y rhanbarth. Ffôn: 08705 808080 www.nationalexpress.com

Gwybodaeth am Gludiant Cyhoeddus Public Travel Information:

I ofyn am gopi o Ganllaw Teithio Powys, sy’n cynnwys gwybodaeth fanwl am gludiant cyhoeddus yn yr ardal yma, ffoniwch: 08456076060 neu ewch i www.powys.gov.uk/index.php?id=110&L=0

Traveline: 08712 002 233 (7am-10pm, 7 diwrnod yr wythnos) www.traveline-cymru.org

Pas Fflecsi Crwydro Cymru:

Fel mae’n dweud ar y label – un tocyn sy’n rhoi rhyddid i chi deithio ar holl wasanaethau trên prif linell Cymru, a bron iawn pob gwasanaeth bws, hefyd yn cynnig mynediad gostyngol i’r prif atyniadau. Mae’n werth gwych am arian ac yn ymarferol iawn hefyd. Mae ar gael am gyfnodau o 8 neu 15 diwrnod. Mae angen ei bwcio o flaen llaw trwy wasanaeth Advance Booking.

Ffôn: 01766 512340 neu ewch i www.walesflexipass.com

Bws y Bannau

Bydd Bws y Bannau yn ailgychwyn ar 25 Mai (Y Sulgwyn) a bydd yn rhedeg tan 28 Medi

Mae Bws y Bannau’n rhedeg ar Ddydd Sul a Dydd Llun yn ystod yr haf, gan adael o amrywiaeth o leoedd yn Ne Cymru a Swydd Henffordd a’ch cludo i fyny i’r Parc Cenedlaethol a dychwelyd min nos.

(C) 2007 - 2013 Explore Mid Wales. All Rights Reserved
Website Design: Trimast Systems Limited