Mae’r llwybr llinellol 15-milltir yn olrhain hynt rhwng Dyffrynnoedd Efyrnwy a Thant, llwybr y bu pererinion, chwarelwyr a phorthmyn yn ei droedio dros y canrifoedd. Mae’n ymdonni ac yn dringo llethrau hir i gysylltu â gwaelodion y dyffrynnoedd â rhostiroedd agored eang.
Ni ddylai cerddwyr ei chael hi’n anodd cwblhau’r daith mewn un diwrnod. Mae’n bosibl y byddai’n well gan bobl sy’n hoffi cerdded yn fwy hamddenol dreulio deuddydd yn cerdded y llwybr, gyda saib yn Llanwddyn. Mae digonedd o gyfleusterau o amgylch Llyn Efyrnwy.